10/12/2009

Ffrainc yn dal i ofni amrywiaeth ieithyddol

Mae’n debyg mai un o addewidion ymgyrch etholiadol Nicolas Sarkozy oedd cynllun y cyn-Weinidog Diwylliant, Christine Albanel, i gyflwyno mesur i gydnabod ieithoedd traddodiadol Ffrainc heblaw’r Ffrangeg. Bellach, mewn ateb i gynrychiolydd seneddol Sosialaidd o’r Gironde, mae Éric Besson, gweinidog â chyfrifoldeb am hunaniaeth genedlaethol Ffrainc, wedi llwyr wrthod y syniad hwnnw.

A Léonard Orphan, comisiynydd Ewropeaidd, newydd fod yn ymweld â Llydaw ac yn sôn am amrywiaeth ieithyddol cyfoethog y wlad, dyma ergyd arall i’r rhai sydd yn awyddus i gryfhau sefyllfa’r Llydaweg

Yn ôl Besson, byddai ystyried mesur a gydnabyddai ieithoedd eraill ar diriogaeth Ffrainc yn rhy beryglus i unoliaeth y Weriniaeth ac i gydraddoldeb gerbron y gyfraith.

http://www.ouest-france.fr/region/bretagne_detail_-Langues-regionales-le-projet-enterre-_8619-1186222_actu.Htm

07/12/2009

Cefnogwch 'Ar Redadeg' ar Facebook

Mae grŵp 'Ar Redadeg' (y ras fawr i godi arian i'r Llydaweg) bellach ar Facebook: Ar Redadeg 2010

Beth am ymuno i ddangos eich cefnogaeth?


Wedi ei seilio ar batrwm ‘Korrika’ Gwlad y Basg, ras gyfnewid a gynhelir bob yn ail flwyddyn yw’r ‘Redadeg’. Ei hamcan yw codi arian i’r Llydaweg a chodi proffil yr iaith. Fe’i cynhaliwyd gyntaf yn 2008, gan Diwan, mudiad yr ysgolion Llydaweg. Llwyddodd y tu hwnt i bob disgwyl, gyda rhyw 8,000 o bobl yn cymryd rhan. Cafodd dros 700 cilometr o’r ras eu noddi gan fusnesau, gan gymdeithasau a chan unigolion.

1,200 cilometr fydd hyd ras 2010, a bydd yn para am 4 diwrnod a hanner, gan adael Roazhon (Rennes), prifddinas Llydaw, ar 10 Mai. Unwaith eto, mae gwirfoddolwyr wedi camu i’r adwy. Yr un yw’r nod o hyd: uno’r Llydawiaid y tu ôl i’r Llydaweg a rhoi iddynt ran mewn helpu’r iaith i oroesi ac i gynyddu. Rhoddir hanner yr elw i Diwan a rhennir y gweddill rhwng cyrff eraill sydd yn hyrwyddo’r iaith.



Peggy, Jonathan a Matthew - Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Llond llaw o bobl a aeth i wrando ar Dom Duff yn Aberystwyth. Dyma ambell un o'r gynulleidfa'n mwynhau gwydraid / panaid yn ystod yr egwyl. Mae dau lun arall ar dudalen Cymdeithas Cymru-Breizh ar Facebook. Siwazh, roedd yn rhy dywyll yn y theatr i dynnu lluniau o Dom Duff yn canu!