08/12/2008

Helpwch amddiffyn y Llydaweg ym mhentref Plougerne!

Mae maer plwyf Plougerne wedi penderfynu newid enwau mannau yn y pentref a dileu pob enw Llydaweg yno! Bydd Lostrouc'h e Lila yn troi'n Rue des hortensias, er enghraifft. Gofynnodd i'r grŵp sy'n gweithio ar y cynllun i sicrhau mai Ffrangeg yw pob enw yno, rhywbeth cywilyddus ac yn achos i pryder, a chofio hanes y pentref a'r angen i ddiogelu dyfodol y Llydaweg.

Mae pobl Plougerne'n erfyn ari unrhyw un a all wneud i ysgrifennu i ddangos gwrthwynebiad i'r cynllun.

Dylid ysgrifennu at y maer:
an aotrou Lesven,
Ti-kêr Plougerne,
Rue du verger,
29880 PlougerneBreizh / Llydaw (F)


A wnewch dynnu sylw cymaint o bobl ag sy bosibl at y llythyr hwn, os gwelwch yn dda, drwy'r byd i gyd?Diolch am eich cymorth a'ch cefnogaeth,

Ffran May-Prigent

ar ran y gymdeithas "Gardiens de mémoire"

No comments: