07/01/2012

Golud gwlad gwyddoniadur

Yn 2012, cyhoeddir, mewn 7 cyfrol, wyddoniadur Llydewig o’r enw “Encyclopédie de la Bretagne”. Bydd yn ymdrin â natur, diwylliant, treftadaeth, hanes, y môr, gwleidyddiaeth ac amryfal bynciau eraill. Rhoddwyd cychwyn i’r fenter yn 2007 wedi i Tony Sabina, cyhoeddwr o Gorsica, ymweld â Llydaw. Ac yntau wedi gweithio ar wyddoniadur i Gorsica, roedd yn holi pam na ellid cyfansoddi a chyhoeddi un i Lydaw hefyd. Ymhlith y cyfranwyr mae nifer o enwau adnabyddus ym myd y Llydaweg, er enghraifft Gwendal Denez, Francis Favereau a Herve ar Bihan, o Brifysgol Roazhon 2, Ronan Koadig, Fañch Morvannou, Annaig Renault, Jean Ollivro a Louis Elegoet.

Bydd pob cyfrol yn canolbwyntio ar faes penodol. Natur fydd thema’r gyntaf, anthropoleg, diwylliant a threftadaeth a gaiff sylw yn yr ail a’r drydedd, a hanes yn y bedwaredd a’r bumed. Llydaw a’r môr fydd thema’r chweched gyfrol. Ymdrinnir â’r gyfraith, â’r economi ac â gwleidyddiaeth yn y gyfrol olaf.

Gwaetha’r modd, ni fydd dim Llydaweg yn y gwyddoniadur er y bydd yno lawer o ddeunydd perthnasol i’r iaith.

No comments: