07/01/2012

Dim llonydd gan weinyddwyr

Mae Llywodraeth Cyngor Rhanbarthol Lydaw wedi cyhoeddi na fydd yn dal i ariannu Skol-Uhel ar Vro (Sefydliad Diwyliannol Lydaw) nac Ajañs Sevenadurel Breizh (Asiantiaeth Ddiwylliannol Llydaw) ac y caiff y ddau gorff eu disodli gan un newydd yn 2012. Cyflogir 8 o bobl gan yr Asiantaieth a 4 gan y Sefydliad Diwylliannol ac nid yw’n sicr pwy a fydd yn dal â swydd wedi’r ad-drefnu.

Ar hyn o bryd caiff Skol-Uhel ar Vro 350,000 € y flwyddyn gan Gyngor Llydaw, bron tri chwarter o’u cyllid. Nid yw’n eglur beth yn union a ddaw i gymryd ei le, a hyd yn oed os llwyddir i greu rhywbeth gwir effeithiol a llwyddiannus, mae’n rhyfedd gweld chwalu’r hen sefydliadau yn eu ffurf bresennol cyn creu cynllun newydd clir a golau.

No comments: