07/01/2012

Ymunent yn eu menter

Ar 8 Hydref 2011, cynhaliwyd cynhadledd ddiwrnod yn Sant-Nazer (Saint-Nazaire) ar y thema “Llydaw a Chymru yng nghanol Bwa Môr Iwerydd” (Breizh ha Kembre e-kreiz ar Wareg Atlantel). Bu rhyw gant o bobl yn cymryd rhan ac edrychwyd yn fwyaf arbennig ar hanes datblygu diwydiannol Llydaw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r cysylltiadau â Chymru a gododd yn sgil hynny. Elfen ganolog yn nhwf diwydiant yn Llydaw oedd mewnforio glo o Gymru. Wedi iddynt ollwng eu glo, âi’r llongau’n ôl i Gymru â choed i’w ddefnyddio yn y pyllau glo. Un o ganlyniadau’r gyfathrach fu creu Clwb Rygbi Sant-Nazer yn 1908 ac un Trigneg yn 1912. Cynrychiolwyr Cymru yn y gynhadledd oedd Gareth Miles, Gwyn Griffiths a Brian Davies.

No comments: