07/01/2012

Ynni rhad heb yr un risg?

Ar 15 Hydref, 2011, bu 15,000 o bobl yn strydoedd Roazhon (Rennes) yn gwrthdystio yn erbyn ynni niwclear, tipyn yn fwy, meddir, nag a oedd yn y dinasoedd eraill lle y cynhaliwyd protestiadau tebyg, rhai fel Bordèus (Bourdeaux ), Strossburi (Strasbourg), a Tolosa (Toulouse). Er mor niferus oedd y gwrthdystwyr, bron anwybyddu’r brotest a wnaeth y cyfryngau a gaiff eu rheoli o Baris.

Ymhlith y protestwyr ’roedd tri gwleidydd amlwg, sef Eva Joly, (Plaid Ecoleg Ewrop/ Y Blaid Werdd), Corine Lepage (Cap 21, sef Citoyenneté Action Participation pour le 21ème siècle) a Philippe Poitou (NPA, sef Nouveau Parti anticapitaliste).

No comments: